Coed peryglus
TMae diogelwch coed bron bob amser yn gyfrifoldeb i berchennog y tir lle maent yn tyfu; ond mae yna rai eithriadau, megis pan fydd cytundeb rhent yn ei gwneud yn ofynnol i denantiaid eiddo reoli'r coed.
Mae gan berchennog neu reolwr y goeden ddyletswydd gofal 'cyfraith gyffredin' i:
‘gymryd gofal rhesymol i osgoi gweithredoedd neu hepgoriadau y gallant ragweld yn rhesymol a fyddai'n debygol o anafu eu cymydog’
Mae gan berchennog y goeden ddyletswydd hefyd o dan Ddeddfau Atebolrwydd Deiliaid i roi camau rhesymol ar waith i sicrhau bod ymwelwyr neu dresmaswyr ar eu tir yn ddiogel. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, os yw coeden yn methu ac yn achosi difrod i berson neu eiddo, yna gall perchennog y goeden fod yn atebol. Byddai'r tebygolrwydd o wneud hawliad, fodd bynnag, fel arfer yn dibynnu ar a oedd y perchennog wedi bod yn esgeulus ai peidio; er enghraifft, os oedd y goeden yn amlwg yn anniogel trwy ddifrod neu glefyd, a'u bod nhw wedi methu â gweithredu i atal hyn rhag digwydd. Felly, os ydych chi'n berchen ar goed, mae'n synhwyrol i chi drefnu iddynt gael eu harchwilio'n rheolaidd gan goedwigwr cymwys.
Mae rhestr o Ymgynghorwyr Cofrestredig yr Arboricultural Association ar gael ar ein gwefan yn www.trees.org.uk/Find-a-professional www.trees.org.uk/Find-a-professional
Y ffordd orau i ymdrin â choeden beryglus ar dir cyfagos yw ysgrifennu at berchennog y goeden cyn gynted â phosibl yn mynegi unrhyw bryderon sydd gennych a gofyn iddynt drefnu i goedwigwr wirio'r goeden. Os na allwch ddod i gasgliad boddhaol ar ôl hyn, efallai y byddai'n ddefnyddiol gofyn i drydydd parti, y mae’r ddau ohonoch yn ei adnabod, gyfryngu cyn i berthnasoedd chwalu'n llwyr. Fel dewis olaf, efallai y bydd yn bosibl cael gwaharddiad llys sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog ddelio â'r goeden, neu mewn amgylchiadau cyfyngedig efallai y gallai'r Cyngor lleol helpu gan ddefnyddio ei bwerau yn ôl disgresiwn o dan Ddeddf Darpariaethau Amrywiol Llywodraeth Leol 1976..
Coed sy'n hongian a gwreiddiau sy'n gorgyffwrdd
Yn gyffredinol, mae'n well i chdi drafod eich pryderon gyda pherchennog y goeden ymlaen llaw, ond o dan y 'gyfraith gyffredin' sefydledig, dylech allu tocio canghennau a gwreiddiau sy'n tyfu dros eich terfyn, boed hynny gyda neu heb ganiatâd y perchennog. Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol, fodd bynnag, i gymryd 'gofal rhesymol' wrth ymgymryd â'r gwaith, ac efallai y byddwch yn atebol os byddwch yn niweidio coeden eich cymydog, neu'n achosi iddi fod yn ansefydlog. Felly, nid yw'n ddoeth ymgymryd â gwaith heb ymgynghori â choedwigwr yn gyntaf. Mae rhannau o'r goeden a gaiff eu torri gennych yn parhau i fod yn eiddo i berchennog y goeden, felly dylid eu cynnig yn ôl i'r perchennog.
Os yw coed sy'n hongian neu wreiddiau sy'n gorgyffwrdd wedi achosi difrod i'ch eiddo, dylech gysylltu â'ch yswiriwr adeiladu am gyngor. Bydd eich yswiriwr fel arfer yn cysylltu â pherchennog y coed yn gofyn iddynt leihau'r niwsans a bydd yn trefnu i unrhyw atgyweiriadau gael eu gwneud. Os nad oes difrod wedi digwydd eto, ond rydych chi'n credu bod yna beryg y bydd y coed yn achosi difrod yn y dyfodol, yna dylech drafod eich pryderon gyda'r perchennog ac ysgrifennu atynt yn gofyn iddynt drefnu i'r coed gael eu harchwilio gan goedwigwr. Dylech gadw copïau o unrhyw lythyrau a anfonwyd gan eu bod yn profi eich bod wedi tynnu sylw at eich pryderon pe bai difrod yn digwydd yn y dyfodol.
Gwarchod Coed
TYn unol â chyfraith y DU, mae yna nifer o ffyrdd y gellir gwarchod coed. Mae'r rhain yn cynnwys Gorchmynion Cadw Coed (TPOs), Ardaloedd Cadwraeth, y system Trwyddedau Torri Coed, Cyfamodau Cyfyngol, ac amodau cynllunio o fewn y system gynllunio. Mae'n bwysig cael gwybod gan eich Cyngor lleol a oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol yn berthnasol cyn i chi ymgymryd â gwaith ar eich coed gan y gallech gael eich erlyn os na fyddwch wedi derbyn caniatâd gyntaf.
Gorchmynion Cadw Coed (TPOs)
Mae TPOs yn cael eu gweinyddu gan eich Cyngor lleol yn rhinwedd ei rôl fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) ac fe'u gwneir i warchod coed sy'n darparu budd sylweddol i'r ardal.
Gellir gwarchod pob rhywogaeth o goed (ond nid gwrychoedd, perthi neu lwyni), a gall TPO warchod unrhyw beth o un goeden i bob coeden o fewn ardal neu goetir diffiniedig – ond nid oes unrhyw rywogaeth yn cael ei hamddiffyn yn awtomatig gan TPO (nid hyd yn oed y dderwen!).
Mae TPO yn ei gwneud hi'n drosedd i dorri, tocio, brigdorri, dadwreiddio, difrodi neu ddinistrio'n fwriadol coeden a warchodir gan y gorchymyn hwnnw, neu achosi neu ganiatáu gweithredoedd o'r fath, heb ganiatâd yr awdurdod. Mae unrhyw un a geir yn euog o drosedd o'r fath yn agored i erlyniad, a gellir gosod dirwy ddiderfyn am ddinistrio neu dynnu coeden warchodedig heb ganiatâd gan yr ACLl.
I wneud cais i wneud gwaith ar goeden warchodedig, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a'i chyflwyno i'r ACLl.
Ardaloedd Cadwraeth
Os yw coeden mewn Ardal Gadwraeth, mae'n rhaid i chi gyflwyno rhybudd ysgrifenedig chwe wythnos ymlaen llaw i'r ACLl (drwy lythyr, e-bost neu ar ffurflen yr ACLl) o unrhyw waith arfaethedig, gan ddisgrifio'r hyn yr ydych am ei wneud. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r ACLl ystyried gwarchod y goeden gyda TPO. Mae’r gweithdrefnau TPO arferol yn berthnasol os yw'r goeden eisoes wedi'i gwarchod gan TPO.
Nid oes angen i chi roi rhybudd os yw'r goeden yn llai na 7.5 centimetr mewn diamedr, wedi’i mesur1.5 metr uwchben y ddaear (neu 10 centimetr os ydych yn ei theneuo i helpu coed eraill i dyfu).
Trwyddedau Torri Coed
Gweinyddir Trwyddedau Torri Coed gan y Comisiwn Coedwigaeth.
Nid oes angen trwydded arnoch i dorri coed mewn gerddi. Ar gyfer coed sydd y tu allan i erddi, fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi wneud cais i'r Comisiwn Coedwigaeth am drwydded torri coed, p'un a ydynt dan Orchymyn Cadw Coed ai peidio.
Mae mwy o wybodaeth am drwyddedau torri coed ar gael ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth.
Cyfamodau Cyfyngol
Mae cyfamod cyfyngol yn addewid gan un person i'r llall, (megis prynwr tir a gwerthwr) i beidio â gwneud rhai pethau gyda'r tir neu'r eiddo. Mae'n rhwymo'r tir ei hun yn hytrach na pherchnogion unigol. Mae hyn yn golygu bod y cyfamod cyfyngol yn parhau ar y tir neu'r eiddo hyd yn oed pan fydd y perchennog presennol yn ei werthu i berson arall.
Gall cyfamodau neu gyfyngiadau eraill yn nheitl eiddo neu amodau mewn prydles ofyn am ganiatâd trydydd parti cyn gwneud unrhyw fath o waith coed, gan gynnwys tynnu coed a gwrychoedd.
Gall hyn fod yn wir hyd yn oed os nad yw rheoliadau TPO, CA a thrwydded torri coed yn berthnasol. Mewn achosion o'r fath efallai y byddai'n well ymgynghori â chyfreithiwr.
Coed a'r system gynllunio
O dan system gynllunio'r DU, mae gan ACLl ddyletswydd statudol i ystyried gwarchod a phlannu coed wrth roi caniatâd cynllunio i ddatblygiad. Mae effaith datblygiad ar goed, p'un a ydynt wedi'u gwarchod (e.e. gan TPO neu Ardal Gadwraeth) neu beidio, yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
Mae faint o wybodaeth sydd ei hangen i alluogi’r ACLl i ystyried yn briodol effeithiau cynigion datblygu ar goed yn amrywio rhwng camau'r broses gynllunio ac yn unol â pha fath o ddatblygiad sy'n cael ei gynnig. Mae Tabl B.1 Safon Brydeinig 5837:2012 Coed mewn perthynas â dylunio, dymchwel ac adeiladu – Argymhellion yn darparu cyngor i ddatblygwyr a'r ACLl ar y swm priodol o wybodaeth y bydd angen ei darparu naill ai yn y cam gwneud cais cynllunio neu drwy amodau (gweler isod).
Amodau Cynllunio
Mae amodau cynllunio yn cael eu defnyddio gan ACLl fel modd o sicrhau y cedwir coed, gwrychoedd a thirlunio meddal arall ar safleoedd yn ystod y datblygiad ac am gyfnod ar ôl cwblhau'r datblygiad. Os oes amodau cynllunio ar waith, rhaid i unrhyw un sy'n dymuno ymgymryd â gwaith ar goed a ddangosir fel rhan o'r amod cynllunio sicrhau eu bod yn cysylltu â'r ACLl ac yn cael unrhyw ganiatâd neu amrywiad angenrheidiol.
Beth mae Swyddog Coed / Coedyddiaeth yn ei wneud o fewn y system gynllunio?
Mae'r Swyddog Coed fel arfer yn gweithio i'r Cyngor lleol. Ei swydd, fel unrhyw weithiwr arall o'r Cyngor, yw gwasanaethu buddiannau'r cyhoedd. Yn achos y Swyddog Coed yn yr Adran Gynllunio, cyflawnir hyn drwy wneud y mwyaf o'r manteision niferus ac amrywiol y mae coed yn eu darparu i ardal weinyddol y Cyngor, trwy fewnbwn i'r system rheoli datblygu.